Am ddod â’ch disgyblion i’r Senedd ar gyfer sesiwn addysgol, gweithdy neu daith am ddim?
Mae ein rhaglenni addysg, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, yn ffordd benigamp o helpu eich myfyrwyr i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru.
Mae ein rhaglenni addysg ar gyfer tymor yr Haf 2024 bellach yn llawn. Fe allwch drefnu i ymweld â'r Senedd ond ni fydd cymhorthdal teithio ar gael ar gyfer teithiau cyffredinol. Byddwn yn cyhoeddi manylion ar sut i archebu taith addysg tymor nesaf maes o law.