Cawcws Menywod y Senedd

Mae Cawcws Menywod y Senedd, sy’n fforwm trawsbleidiol i Aelodau, yn dod â seneddwragedd o bob plaid at ei gilydd i ddarparu cymorth gan gymheiriaid ac i hybu cydraddoldeb rhywiol.

Mae’r Cawcws yn cynnwys pob menyw sy’n Aelod o’r Senedd, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AS a Grŵp Llywio o gynrychiolwyr o bob plaid.

Gweledigaeth a Nod

Gweledigaeth a Nod

Ein gweledigaeth

Cymru sy’n gyfartal o ran y rhywiau ac yn gwbl gynhwysol, lle:

  • mae pawb yn cael eu grymuso i ymgysylltu â gwleidyddiaeth (fel dinasyddion ac fel cynrychiolwyr etholedig) waeth beth fo'u rhywedd a’u nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys statws economaidd-gymdeithasol, ac
  • mae polisïau, cyfreithiau, rhaglenni a chyllidebau wedi'u cynllunio i fod yn sensitif i anghenion a phrofiadau amrywiol y boblogaeth.

 

Ein Cenhadaeth

Dod ag Aelodau benywaidd o’r Senedd at ei gilydd o bob plaid wleidyddol er mwyn:

  • gweithio'n bwrpasol i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth a nodi'r rhwystrau presennol o fewn ein system seneddol.
  • datblygu a hyrwyddo polisi ac ymarfer sy'n mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar ein seneddwyr benywaidd a’n cymdeithas.
  • bwrw ymlaen ag agenda’r Cawcws y cytunwyd arni o fewn pleidiau gwleidyddol a meysydd dylanwad eraill y Senedd.

 

Gall y Cawcws gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau wrth geisio cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad effeithiol mewn gwleidyddiaeth a gwella cydraddoldeb o fewn y Senedd ac mewn cymdeithas, a hynny mewn modd blaengar.

Digwyddiad mwyaf diweddar

Diwrnod Rhynglwadol y Merched 2024

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024, cynhaliodd y Senedd fore o weithgareddau ar gyfer ysgolion lleol, gan ganolbwyntio ar y thema Ysbrydoli Cynhwysiant. Roedd y rhaglen yn cynnwys:

  • Trafodaeth banel wedi’i gadeirio gan Jess Hope Clayton gyda Jess Davies, Molly Fenton, a Taylor Edmonds
  • Digwyddiad bord gron gyda Cawcws Menywod y Senedd
  • Adborth a rhwydweithio
  • Teithiau o'r Senedd a chyfle i wylio’r Cyfarfod Llawn

Fel rhan o'r rhaglen, cymerodd aelodau o’r Cawcws ran mewn trafodaethau bord gron gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gwent Is-Coed, Cantonian, Bro Edern, ac Ysgol Plasmawr. Seiliwyd y trafodaethau ar y cysylltiadau rhwng pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol, cynrychiolaeth ddemocrataidd ehangach a gwaith y Senedd, yn ogystal ag annog myfyrwyr i feddwl am ffyrdd y gallant ysbrydoli newid yn eu hysgolion a chymunedau lleol ac ehangach. 

Gwahoddwyd holl aelodau'r Senedd i glywed adborth o weithgareddau'r bore, a bu rhai o Aelodau’r Cawcws yn tynnu sylw at y digwyddiad a’r sgyrsiau hynny yn eu cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mawrth, fel rhan o ddatganiad y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

Diweddariadau Diweddar

Mwy o wybodaeth

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd

Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: llywydd@senedd.wales

Cadeirydd: Joyce Watson AS

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.