Rygbi

Rygbi

Dylai darlledu gemau’r Chwe Gwlad barhau yn rhad ac am ddim

Cyhoeddwyd 25/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Chwaraeon y Senedd yn galw heddiw i dwrnamaint rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei warchod er mwyn parhau am ddim i bobl ei wylio ar y teledu, gan ddadlau y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o fod yn ddigwyddiad Grŵp B i fod yn ddigwyddiad Grŵp A fel rhan o'r drefn digwyddiadau rhestredig o dan Ddeddf Darlledu 1996.

Byddai hyn yn golygu y byddai twrnamaint y Chwe Gwlad yn ymuno â Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr, y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Pêl-droed y Byd y Menywod a Phencampwriaethau Ewropeaidd fel twrnameintiau sydd wedi’u diogelu ar gyfer darlledu ar wasanaethau am ddim.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r alwad hon.

"Mae gan rygbi rôl unigryw yn ein bywyd cenedlaethol"

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd:

“Mae gan rygbi rôl unigryw yn ein bywyd cenedlaethol, ac mae lle arbennig i dwrnamaint y Chwe Gwlad yng nghalonnau cynulleidfaoedd Cymru. Roedd hyn ar flaenau ein meddyliau wrth ddod i’r penderfyniad i alw am ei ddiogelu fel darllediad rhad ac am ddim.

“Rydym wedi clywed yn blwmp ac yn blaen am yr heriau sy’n wynebu’r gamp wrth i nifer y bobl sy’n chwarae rygbi leihau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi clywed pryderon ynghylch effaith gosod y twrnamaint y tu ôl i wal dalu a sut y gall hyn effeithio ar y nifer o bobl sy’n chwarae rygbi – yng ngeiriau un o’r bobl fu’n siarad â ni ’rhaid i chi ei weld, er mwyn ei wneud’.

“Mae llawer yn cydnabod yr effeithiau niweidiol o ganlyniad i roi criced yn y DU y tu ôl i wal dalu yn 2006. Rhwng 2006 a 2015, bu gostyngiad o 32% yn nifer y bobl sy’n chwarae criced. Allwn ni ddim gadael i’r un peth ddigwydd i rygbi.

“Wrth dyfu i fyny, mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy wylio rygbi ac mae’n hanfodol bod twrnamaint y Chwe Gwlad ar gael i bawb.”

Darlledu yn Gymraeg

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu fod yn rhaid diogelu darlledu twrnamaint y Chwe Gwlad yn Gymraeg. Mae adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i ddiogelu darlledu twrnamaint y Chwe Gwlad yn gwbl Gymraeg.

Ychwanegodd Delyth Jewell AS:

“Rhaid cynnig y gemau yn y Gymraeg yn llawn. Mae darlledu’n Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig o ran cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd wrth inni weithio tuag at darged Cymraeg 2050.”

 


Mwy am y stori hon

Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad