Hafan > Busnes y Senedd > Pwyllgorau > Cyfnodau ymchwiliad

Ymchwiliad yw ddarn o waith craffu gan un o bwyllgorau’r Senedd yn ymwneud â maes polisi neu bwnc penodol. Bydd pwyllgor fel arfer yn paratoi adroddiad ar ei ymchwiliad, gan gynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

The process

Cynnig ymchwiliad

Mae ymchwiliad pwyllgor yn archwiliad gan grŵp o Aelodau o'r Senedd i fater penodol.

Gall sefydliadau ac unigolion awgrymu materion y maent yn meddwl y dylai pwyllgor ymchwilio iddynt.

Mae 'Cynnig ymchwiliad' yn golygu bod aelodau'r pwyllgor wedi penderfynu ymchwilio i fater penodol, ond nad ydynt wedi dechrau mynd ati i gasglu gwybodaeth (tystiolaeth) am y peth eto.

Gall aelodau'r pwyllgor hefyd fod yn dal i benderfynu sut yn union y byddant yn casglu gwybodaeth, a beth fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Cael tystoliaeth

Efallai y bydd aelodau'r pwyllgor yn casglu gwybodaeth (yn derbyn tystiolaeth) am fater mewn ffyrdd gwahanol.

Pan fydd pwyllgor yn dechrau ymchwilio i fater, efallai y byddant yn gofyn i bobl ysgrifennu atynt, gan nodi beth yw eu barn ar fater penodol. Gelwir hyn yn 'galw am dystiolaeth'. Gall unrhyw un ymateb i alwad am dystiolaeth, yn ysgrifenedig, drwy fideos neu ar ffurf sain (rhoi gwybodaeth ysgrifenedig a digidol i bwyllgor).

Gall pwyllgor hefyd ofyn i bobl ddod i un o'i gyfarfodydd, ac ateb cwestiynau am y mater y mae'n ymchwilio iddo. Caiff hyn ei wneud mewn cyfarfod pwyllgor a chaiff ei alw yn  rhoi tystiolaeth lafar.

Gall pwyllgor hefyd gasglu mathau eraill o dystiolaeth. Er enghraifft, gallai gynhyrchu arolwg neu holiadur i gasglu barn pobl, neu ymweld â phrosiectau penodol sy'n gysylltiedig â'r mater y mae'n ymchwilio iddo.

Drafftio adroddiad

Unwaith y bydd pwyllgor wedi casglu tystiolaeth, bydd ei aelodau yn adolygu'r wybodaeth a gasglwyd ganddynt, yn trafod pa argymhellion y maent am eu gwneud (fel arfer i Lywodraeth Cymru) ac yn cytuno ar adroddiad ar eu hymchwiliad.

Cyhoeddi'r adroddiad

Ar ôl i bwyllgor gytuno ar adroddiad ar ei ymchwiliad, fel arfer bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, a bydd ar gael ar dudalennau gwe y pwyllgor.

Fel arfer, caiff yr adroddiad ei anfon yn electronig at Lywodraeth Cymru a phawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn ei ymchwiliad.

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu ymateb ysgrifenedig, gan gynnwys atebion i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Mae hyn fel arfer yn digwydd o fewn chwe wythnos o adroddiad yn cael ei gyhoeddi gyntaf.

Gall pwyllgor hefyd ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar unrhyw adroddiad y mae wedi'i gynhyrchu. Mae trafod adroddiad yn y Cyfarfod Llawn yn caniatáu i Aelodau o'r Senedd o bob plaid wleidyddol roi sylwadau ar ymchwiliad y pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru. 

Wedi'i gwblhau

Pan fydd Pwyllgor wedi gorffen ei ymchwiliad, wedi cyhoeddi adroddiad, ac wedi cael ymateb Llywodraeth Cymru, disgrifir yr ymchwiliad gwreiddiol fel un sydd 'wedi'i gwblhau'.

Fodd bynnag, gall pwyllgor gynnal ymchwiliadau yn y dyfodol ar bynciau y mae eisoes wedi ymchwilio iddynt. Er enghraifft, efallai y bydd pwyllgor yn awyddus i graffu ar p'un a yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion a wnaeth yn flaenorol ar fater penodol.